WCVA | Supporting Wales' third sector
 Cefnogi'r trydydd sector yng Nghymru 

 

 

 


Galwad

 

Cais Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru am dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd Ariannu Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

 

Ymateb gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Rhagfyr 2011

 

Cefndir

Mae'r trydydd sector yn un o brif randdeiliaid y gwaith o gynllunio, monitro a darparu rhaglenni'r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru:

 

 

Mae'r sector yn ymwneud â chyflwyno ystod eang o brosiectau'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), gan gynnwys darparu dulliau gweithredu arbenigol, arloesol i gynorthwyo'r rhai mwyaf difreintiedig i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEETs) ac ennyn eu brwdfrydedd, cefnogi datblygiad merched ym maes cyflogaeth, symud ymlaen â'r agenda cynhwysiant digidol, creu rhwydweithiau llwybrau cerdded a beicio, adfer adeiladau cymunedol, a datblygu'r economi cymdeithasol yng Nghymru.

 

Yn hynny o beth, mae WCVA,  fel corff ymbarel y trydydd sector yng Nghymru, yn croesawu'r cyfle i ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i effeithiolrwydd Ariannu Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.   Mae'r ddogfen hon wedi'i llunio mewn ymgynghoriad â Fforwm Ewropeaidd y trydydd sector (3-SEF),  sydd yn rhwydwaith o dros 660 o noddwyr prosiectau trydydd sector yr UE a mudiadau darparu contractau. 

 

Ymatebion i gwestiynau a osodwyd gan y Pwyllgor Cyllid

 

1.           I ba raddau ydych chi'n ystyried bod y Rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 2007-2013 wedi cyflawni neu yn cyflawni'r amcanion a fwriadwyd?

 

1.1 Prif amcan y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yw cynyddu cyfoeth economaidd, sy'n cael ei fesur yn nhermau cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) y rhanbarthau.  Yn seiliedig ar y data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ystadegau GDP ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 2007 a 2008, mae'n rhy gynnar i ddweud a yw'r amcan hwn wedi cael ei gyflawni.

 

1.2 Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn monitro perfformiad prosiect yn ofalus o ran y gwariant a wnaed a'r canlyniadau a gafwyd, gan mai dyma'r prif fesurau perfformiad a ddefnyddir gan y Comisiwn Ewropeaidd.  Mae data gan Bwyllgor Monitro Rhaglen Cronfeydd Strwythurol Cymru Gyfan (PMC) yn Rhagfyr 2011 yn awgrymu fod rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd ESF ac ERDF yn gyffredinol yn mynd i gyflawni'r nod o ddarparu eu hamcanion o ran nifer y prosiectau a gymeradwywyd, lefelau ymrwymiad, gwariant a dangosyddion.  Fodd bynnag, mae WCVA yn credu bod gormod o bwyslais ar hyn o bryd ar fonitro gwariant prosiectau ac yn argymell y dylid rhoi mwy o sylw ym mhrosiectau'r dyfodol i ganlyniadau ac effeithiau prosiectau, er mwyn asesu a yw'r ymyriadau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Cymru.

 

1.3 Mae WCVA am wneud sylwadau am y sialensiau sydd ynghlwm â chyflawni amcanion parthed dwy agwedd benodol ar ddarparu Rhaglen:

 

1.4 Llawer o amser paratoi cyn gweithredu prosiect

Dioddefodd rhaglenni 2007-2013 amser paratoi hir o 18 mis - dwy flynedd, sydd wedi golygu sialensiau sylweddol i gyflawni amcanion y Rhaglen o fewn y cyfnod o amser a nodwyd.  Mae WCVA yn credu fod yr amser paratoi hir hwn yn deillio o:

 

·         Modelau darparu cymhleth - treuliwyd amser ac arian sylweddol yn sefydlu modelau darparu cymhleth a threfniadau nawdd ar y cyd, yn ogystal â'r gwaith angenrheidiol o wella sgiliau gweithwyr prosiect er mwyn rheoli a darparu prosiectau mewn amgylchedd cynyddol dynnach o ran archwilio a rheoli.

·         Syniadau prosiect a gweithio mewn partneriaeth - buddsoddwyd llawer iawn o amser ac ymdrech gan randdeiliaid yn y gwaith o ddatblygu syniadau prosiectau a 'phartneriaethau' nad oedd yn y pen draw yn unol â chyfeiriad strategol y rhaglenni.  Ar gyfer rhaglenni'r dyfodol, gofynnir i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru  ddarparu arweiniad llawer cliriach ar y mathau o brosiectau a fydd yn cael eu hystyried a sut y bydd y cydweithio rhwng noddwyr yn cael ei hwyluso.

·         Prosiectau strategol Llywodraeth Cymru - oherwydd yr arafwch wrth gyflwyno prosiectau Llywodraeth Cymru a oedd yn unol â blaenoriaethau strategol, collodd noddwyr prosiectau allanol amser wrth ddatblygu eu prosiectau a oedd angen cadw at gynlluniau'r Llywodraeth.

 

1.5        Canlyniadau'r gohirio a achoswyd gan y ffactorau hyn yw:

 

·         daeth darparu prosiect i rym mewn gwirionedd tua chanol y Rhaglen, gan olygu ei bod hi'n anodd dweud ar hyn o bryd a yw'r Rhaglenni yn cyflawni eu hamcanion arfaethedig;

·         roedd bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl sy'n agored i niwed a oedd wedi elwa o ymyriadau ESF fel rhan o brosiectau Amcan Un; ac

·         aeth amseru ac argaeledd arian cyfatebol ar ei hôl hi, gan olygu nad yw prosiectau wedi gallu defnyddio gwerth llawn yr arian cyfatebol ar gael ar gyfer y cyfnod rhaglennu llawn.

 

1.6 Er mwyn osgoi'r gohirio hyn wrth weithredu'r rownd nesaf o raglenni, mae WCVA yn argymell fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dweud wrth Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru y dylid cynnal adolygiad brys o brosiectau a ariennir trwy raglenni 2007-2013, er mwyn clustnodi prosiectau a modelau darparu y gellid eu haddasu i ddarparu rhai o'r prif flaenoriaethau ar gyfer rhaglenni'r dyfodol  fydd yn dod i'r fei gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy dargedau EU2020 a chynigion deddfwriaethol drafft Cronfeydd Strwythurol 2014-2020.  Er mwyn hwyluso trosglwyddiad llyfn i'r rhaglenni newydd, mae'n hanfodol fod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ceisio cynnal a gweithio gyda noddwyr prosiect sydd wedi adeiladu seilweithiau, prosesau ac arbenigedd prosiect soffistigedig yn ystod y rhaglenni cyfredol er mwyn sicrhau na fydd y cyfalaf deallusol hwn yn cael ei golli yn y tymor byr, dim ond i gael ei ail-adeiladu eto ar ddechrau'r rhaglenni nesaf.  Bydd hyn yn golygu dyfarnu peth 'cyllid llenwi bwlch' ar gyfer prosiectau strategol, a dylid rhoi ystyriaeth gan WEFO i'r meini prawf tryloyw y dylid eu cymhwyso i brosiectau er mwyn penderfynu a ddylid eu hymestyn neu beidio.

Astudiaeth achos: Cynllun Porth Ymgysylltu WCVA

 

Yn dilyn diwygiad i'r rhaglen ESF gyfredol ym mis Hydref 2010, caniatawyd i brosiectau ddyfarnu grantiau'n gystadleuol, yn hytrach na chontractau ar gyfer gweithgaredd.  Cymerodd WCVA y cyfle hwn ar gyfer ein cynllun Porth Ymgysylltu, gan newid ym Mawrth 2011 o gaffael i ddull gweithredu yn seiliedig ar grantiau cystadleuol.

 

Bu i ni gadw'r un systemau a phrosesau, telerau ac amodau, a dim ond newid yr iaith a ddefnyddiwyd gennym a chaniatawyd i ni ddefnyddio dull gweithredu  mwy cefnogol o ran ateb ymholiadau, a oedd yn golygu y gallai'r prosesau asesu a thrafod ddechrau'n gynharach. O'n profiad ni ein hunain gwelwyd cynnydd enfawr yn ymatebolrwydd mudiadau'r trydydd sector o ran cyfleoedd bidio.

 

·         Cynhaliwyd 44 o rowndiau tendro dan y dull  caffael, gan arwain at ddyfarnu 354  o gontractau (cyfartaledd o 8 o gontractau'n cael eu dyfarnu ym mhob rownd);

·         Dim ond 6 rownd a gynhaliwyd dan y dull  grantiau cystadleuol, gyda 138 o ddyfarniadau (cyfartaledd o 23 o grantiau wedi'u dyfarnu ym mhob rownd).

 

Gan amlaf, cymerodd contractau bum gwaith yn hwy i gyrraedd pwynt 'cymeradwyo' ar gyfer dyfarnu'r contract, oherwydd bod elusennau yn cymryd agwedd mwy ofalus wrth arwyddo contractau yn hytrach na llythyrau cynnig grant. Arweiniodd hyn yn y lle cyntaf at ohirio sylweddol wrth geisio cael arian i'r sector a gwariant ar weithgareddau ar lawr gwlad.  Pe byddem wedi defnyddio'r broses grantiau cystadleuol o'r dechrau, byddai cyllid wedi'i ryddhau'n gyflymach, gan alluogi gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer cyllid cyfatebol, a byddai'r prosesau wedi bod yn fwy effeithlon.  

 

 

 

 

 

 

 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


1.7 Cydweithrediad Trawswladol

Tanddefnyddiwyd yn sylweddol y cyfle i ymgymryd â gweithgarwch trawswladol o fewn cyd-destun prosiectau ESF ac ERDF, ac mae adborth gan noddwyr prosiectau trydydd sector yn nodi y gallai WEFO wneud mwy i symleiddio a hwyluso mynediad i gyfleoedd trawswladol.  Ar gyfer y dyfodol, argymhellir gwella statws cydweithrediad trawswladol drwy greu un ai Blaenoriaethau ERDF ac ESF penodol ar gyfer cydweithrediad trawswladol neu, fel arall, llinyn o fewn pob Blaenoriaeth Rhaglen.  Dylai Cymorth Technegol hefyd fod ar gael i randdeiliaid allanol i gynorthwyo noddwyr prosiectau i ddatblygu a gweithredu eu gweithgareddau trawswladol.

 

2.     Ydych chi'n ystyried bod y prosiectau amrywiol a ariennir gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn rhoi gwerth am arian?

 

2.1 Mae lefel uchel o fuddsoddiad o Gronfeydd Strwythurol ac arian cyfatebol wedi          

cael ei wneud er mwyn creu mecanweithiau darparu prosiect soffistigedig sy'n golygu bod amcan WEFO i gymryd agwedd mwy strategol tuag at ddarparu yn y Rhaglenni 2007-2013.  Mae'r prosiectau 'strategol' hyn hefyd wedi cael y dasg o sicrhau, pan fo hynny'n bosibl, eu bod yn ymwneud â phartneriaid a chontractwyr er mwyn darparu prosiectau yn y ffyrdd mwyaf priodol, gan hefyd ddarparu sicrwydd archwiliad a chydymffurfiad ar gyfer eu hunain ac ar gyfer eu partneriaid darparu.  Hynny yw, mae WEFO wedi trosglwyddo biwrocratiaeth sylweddol a sicrwydd archwilio i noddwyr prosiectau.

 

2.2 Mae'r prosiectau hyn wedi bod yn ddrud i'w sefydlu ac felly, er mwyn sicrhau gwerth am arian yn y tymor hwy, mae'n hanfodol, pan fo prosiectau yn cyflawni eu meini prawf perfformiad unigol, bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnal y modelau darparu hynny ar gyfer y cyfnod rhaglennu yn y dyfodol.

 

3     a) A oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch defnyddio'r Gronfa Arian Cyfatebol

a Dargedir (TMF)? 

 

3.1 Mae'r TMF wedi darparu arian cyfatebol hanfodol ar gyfer prosiectau sydd yn syml heb fodd o gael lefelau uchel o'r arian cyfatebol sydd ei angen ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr.  Er enghraifft, mae prosiect Porth Ymgysylltu WCVA wedi defnyddio TMF fel arian cyfatebol yn y ffynhonnell mewn contractau hyd at £25,000 i gyflenwyr ddarparu ymyriadau bychain lleol i bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.  Heb TMF, byddai mudiadau lleol yn annhebygol o gael arian cyfatebol ar gyfer y gwaith allgymorth ac ymwneud hanfodol hwn, neu yn wir, gael mynediad i Gronfeydd Strwythurol o gwbl.

 

3.2 Fodd bynnag, mae WCVA fel noddwr y prosiect, wedi profi gohirio dianghenraid wrth dderbyn taliadau TMF gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau llif arian digonol ar gyfer cynlluniau Porth Ymgysylltu a'r Farchnad Lafur Drosiannol (ILM) (sydd werth cyfanswm o £53m), sydd hyd yn hyn wedi ariannu 584 o gontractau a grantiau (Porth  Ymgysylltu - 518 a'r Farchnad Lafur Drosiannol - 66).  Mae hyn wedi golygu risg annerbyniol i sefyllfa ariannol WCVA ei hun.

 

3.3 Bu gormod o danysgrifio i lif refeniw y TMF, a dim digon o danysgrifio i'r elfen gyfalaf.  Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu TMF ar gyfer Rhaglenni 2014-2020, argymhellir cynnal asesiad anghenion yn gynnar er mwyn dadansoddi pa bwysau sy'n debygol o fod ar arian cyfatebol ac i sicrhau fod TMF yn diwallu'r anghenion hynny.

 

3     b) A oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch defnyddio gwariant Adran o Lywodraeth Cymru, fel arian cyfatebol? 

 

3.4 Mae nifer o noddwyr prosiectau trydydd sector wedi defnyddio eu harian craidd gan Lywodraeth Cymru fel sbardun i gael arian Ewropeaidd.  Wrth symud ymlaen i'r rhaglenni newydd, mae'n hanfodol bod mudiadau trydydd sector sy'n derbyn arian craidd gan Lywodraeth Cymru yn trafod ac yn cytuno ar eu trefniadau ariannu yn y dyfodol yn 2013 a sut y gellid eu cynyddu trwy ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

 

3.5 O bersbectif ehangach mudiadau darparu contractau'r trydydd sector, nid yw cyllidebau adrannau Llywodraeth Cymru wedi cael eu defnyddio'n helaeth fel arian cyfatebol gan nad yw wedi bod yn glir pa ffynonellau allai fod ar gael ar gyfer arian cyfatebol, gan arwain at ddibynnu ar TMF ac ar gyrff ac ymddiriedolaethau eraill sy'n cynnig grantiau. 

 

3.6 Y modelau sydd wedi gweithio'n dda yw'r rhai hynny lle mae'r arian wedi cael ei gyfateb ar y dechrau gan ddefnyddio cyllidebau adrannol Llywodraeth Cymru/corff cyhoeddus, ac wedi bod ar gael i fudiadau trydydd sector trwy brosesau caffael a grantiau cystadleuol.  Er enghraifft, prosiectau Porth Ymgysylltu a Marchnad Lafur Drosiannol WCVA; Prosiect Cefnogi Menter Gymdeithasol Canolfan Gydweithredol Cymru; prosiect Cyrraedd y Nod y Cyngor Celfyddydau; a phrosiect Sgiliau Bywyd y Gronfa Loteri Fawr.  Mae'r prosiectau hyn wedi darparu mynediad symlach i'r cronfeydd ar gyfer mudiadau llai ac wedi lleihau'r gofynion archwilio ar gyfer mudiadau darparu.

 

3.7 Argymhellir ar gyfer y rownd nesaf o raglenni fod y Rhaglenni Gweithredol yn nodi'r prif brosiectau y mae pob Adran o Lywodraeth Cymru am eu datblygu, gydag ymrwymiadau i arian cyfatebol ymlaen llaw, gan ei gwneud hi'n glir y bydd/na fydd cyfleoedd i randdeiliaid allanol dendro am y darparu.

 

3c) Pa effaith, yn eich barn chi, mae toriadau yn y sector cyhoeddus wedi eu cael ar argaeledd arian cyfatebol yn y sector cyhoeddus?

 

3.8 Mae cytundebau ariannu tymor hir (3-5 mlynedd) rhwng y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wedi golygu nad yw effaith toriadau ar wariant y sector cyhoeddus wedi cael eu teimlo'n sylweddol hyd yn hyn gan brosiectau Cronfeydd Strwythurol.  Fodd bynnag, disgwylir iddo ddod yn fwy amlwg yn ystod 2012/13 pan fydd noddwyr prosiectau'r trydydd sector o reidrwydd yn ceisio sicrhau arian cyhoeddus er mwyn cyfateb i estyniadau prosiectau posibl a hynny er mwyn cynnal modelau darparu priodol ar gyfer y rownd nesaf o raglenni.

 

3.9 Mae amser gwirfoddoli fel ffynhonnell gymwys o arian cyfatebol mewn nwyddau felly yn parhau i fod yn hanfodol yn y rownd hon o Raglenni, ac fe fydd yn sicr yn cynyddu mewn pwysigrwydd wrth i gyllidebau'r sector cyhoeddus gael eu gwasgu yn ystod rownd 2014-2020.  Mae mudiadau darparu contractau eu hunain wedi ymrwymo £12.2 m i gyfateb contractau/grantiau Porth Ymgysylltu a Marchnad Lafur Drosiannol, gan gynnwys cyfraniad sylweddol ar ffurf amser gwirfoddolwyr mewn nwyddau.  Mae Cymru yn unigryw yng nghenhedloedd y DU, a ledled Ewrop, o ran gwneud defnydd mor effeithiol o amser gwirfoddoli.

 

4             Pa mor effeithiol yn eich barn chi fu WEFO wrth fonitro effaith prosiectau?

 

4.1 Mae WCVA yn cydnabod y gwaith da a wnaed gan dîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso WEFO i ddarparu deunyddiau cyfeirio a chyngor defnyddiol i noddwyr prosiectau er mwyn datblygu systemau monitro a phrosesau gwerthuso effeithiol, ac yn cymeradwyo parhau â'r agwedd hon i mewn i'r rownd nesaf o raglenni.

 

4.2 Gwnaethpwyd gwelliannau i'r gwerthuso ar lefel rhaglen a phrosiect, fodd bynnag erys angen am ddatblygiadau i ddangos yn effeithiol beth yw effaith llawn yr arian yng Nghymru.

 

4.3        Er enghraifft, gwelliant fyddai i WEFO reoli bâs data'r holl gyfranogwyr yn ganolog, er mwyn lleihau'r risg o gyfrif dwbl.  Ystyriwyd bod cyfrif dwbl yn fater gwirioneddol yn rhaglenni 2000-2006, ond mae ymdrechion i sicrhau na fydd y camgymeriadau hyn yn cael eu hailadrodd wedi arwain at ddiffyg eglurder ymhlith noddwyr prosiectau a mudiadau darparu contractau ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cydweithio er mwyn darparu'r pecyn mwyaf priodol o gefnogaeth i gleientiaid, yn bennaf o ran pa brosiectau all hawlio canlyniadau am e.e. gyfranogwyr yn mynd i gyflogaeth gynaliadwy, swyddi a grewyd, buddsoddiad a gafwyd.  Byddai bâs data cyfranogwyr, wedi'i reoli'n ganolog gan WEFO, gyda gofynion/fformadau adrodd unffurf ar gyfer pob noddwr prosiect yn lleihau'r risg o gyfrif dwbl yn sylweddol a byddai'n ymdrin â'r pryderon ar lefel darparu ynghylch gweithio mewn partneriaeth a hawlio canlyniadau trwy gael gwared ar y posibilrwydd o gyfrif dwbl mewn adroddiadau i'r Comisiwn.

 

5      Oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch cynaliadwyedd tu hwnt  i 2013  parthed gweithgareddau a'r canlyniadau a gafwyd trwy brosiectau a gyllidwyd yn ystod y rownd gyfredol o Gronfeydd Strwythurol?

 

5.1 Mae rheolau a rheoliadau'r Cronfeydd Strwythurol cyfredol yn cosbi prosiectau am greu incwm trwy, mewn gwirionedd, leihau'r gyfradd ymyriad grant.  Golyga hyn fod prosiectau o reidrwydd yn anghynaladwy.  Fodd bynnag, bydd yr anogaeth i weithio mewn partneriaeth, gobeithio, yn golygu y bydd mwy o gyfleoedd ar lefel weithredol ar gyfer cydweithio yn y dyfodol, gan anelu at ganlyniadau gwell ar gyfer cyfranogwyr a gwell effeithlonrwydd. 

 

5.2 Gwnaethpwyd peth defnydd yn y rhaglen hon o offerynnau ariannol, gan gynnwys arian benthyciadau fel JEREMIE, JESSICA a Chronfa Buddsoddi Cymunedau WCVA ei hun (CIF), sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion y trydydd sector, trwy gynnig cyfuniad o grant a benthyciadau gyda chynlluniau ad-dalu hyblyg.   Mae cynlluniau o'r fath yn annog mudiadau i feddwl yn fwy cynaliadwy a galluogi arian i gael ei ailgylchu yn ôl i'r economi dros dymor hwy. Er nad yw arian benthyciad yn ateb cywir ar gyfer pob prosiect neu fudiad, mae'r agwedd yn helpu lleihau'r ddibyniaeth ar grantiau.

 

5.3 Er mwyn hyrwyddo ac annog cynaliadwyedd ariannol o ddifrif gofynnir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i sgopio cyfleoedd i wella hyblygrwydd o ran rheolau cyllido'r UE er mwyn ysgogi, yn hytrach na rhwystro, modelau ariannol cynaliadwy megis cyllid o fenthyciadau a chymynroddion.

 

5.4 Mae WCVA felly'n cefnogi bwriad y Comisiwn Ewropeaidd i gynyddu'r defnydd o fenthyciadau ar y cyd â grantiau fel dull o leihau dibyniaeth ar grantiau a chreu parhâd ar gyfer y rhaglenni.  Mae WCVA yn credu y dylai'r defnydd o offerynnau ariannol blaengar o'r fath sy'n diwallu anghenion penodol y sector gael ei ehangu yn y rhaglenni ar ôl 2013.

 

5.5 Mae WCVA yn gofyn i 'r Pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru'n sicrhau nid yn unig fynediad i offerynnau ariannol ond hefyd bod cyfres lawn o gymorth o ran buddsoddi, grantiau, cychwyn, busnes a chymorth deallusol ar gael i fudiadau blaengar yn y trydydd sector a mentrau cymdeithasol. Byddai'r effaith yn ddeublyg: cynyddu swyddi a ffyniant ond hefyd galluogi mudiadau'r trydydd sector i ddod yn fwy hunangynhaliol a llai dibynnol ar arian grant a rhoddion.

 

6      Beth yw'ch profiad chi o gael mynediad i Ariannu Strwythurol Ewropeaidd?

 

6.1 Gweler y dystiolaeth ychwanegol o Blant y Cymoedd yn Atodiad 1.

 

6.2 Mae gan WCVA brofiad sylweddol o ymwneud â Rhaglenni Arian Strwythurol yng Nghymru:

 

 

6.3 Mae profiad WCVA o gael mynediad i Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd wedi cael eu tanategu gan berthynas waith adeiladol gyda WEFO, gan ddefnyddio rôl WCVA fel corff ymbarel ar gyfer y trydydd sector i agor mynediad i Ariannu Ewropeaidd ar gyfer mudiadau bychain yn y trydydd sector.   Gwnaethpwyd hyn yn y rownd gyfredol o raglenni trwy nawdd WCVA o'r prosiectau canlynol, gyda chyfanswm cost prosiect ar y cyd o £60.7m (£35.4m grant UE):

 

·         Porth Ymgysylltu (Cydgyfeiriad ESF Blaenoriaeth 2; Cystadleurwydd ESF Blaenoriaeth 1)

·         Marchnad Lafur Drosiannol (Cydgyfeiriad ESF Blaenoriaeth 2; Cystadleurwydd ESF Blaenoriaeth 1)

·         Cronfa Buddsoddi Cymunedol (Cydgyfeiriad ERDF Blaenoriaeth 2)

·         Cymunedau Menter (Cydgyfeiriad ERDF Blaenoriaeth 5, Thema 2)

·         Tîm y trydydd sector Ewropeaidd (3-SET - cymorth technegol) 

 

6.4 Fodd bynnag, mae prif sialensiau/rhwystredigaethau WCVA yn y Rhaglenni 2007-2013 wedi bod o ran:

 

·         Caffael - achoswyd gohiriad o 18 mis - dwy flynedd ar ddechrau'r prosiect, ac yna disodlwyd gan agwedd grantiau cystadleuol mwy hylaw sy'n fecanwaith mwy priodol er mwyn ariannu ymyriadau lleol ar raddfa fach.

·         Diwydrwydd dyladwy a chydymffurfiad- gyda'r bwriad o ariannu llai o brosiectau ond prosiectau mwy strategol yn y rownd hon o Raglenni, mae WEFO mewn gwirionedd wedi trosglwyddo'r gofynion diwydrwydd dyladwy, archwilio a chydymffurfiad i noddwyr prosiectau.  Mae hyn wedi golygu fod swm arwyddocaol o gyllidebau prosiect wedi cael eu dyrannu i gostau staff i ymgymryd â'r dyletswyddau hynny a bydd hyn yn gynyddol anodd i ddarparu adnoddau ar ei gyfer wrth i gyllidebau sector cyhoeddus gael eu gwasgu mwy a mwy dros y blynyddoedd sydd i ddod.  Mae hyn yn tanlinellu unwaith eto pa mor allweddol yw cael cyfraddau ymyriad uwch er mwyn sicrhau bod arian digonol ar gael i sicrhau rheoli prosiect effeithiol.

 

7   A yw'r sector preifat yn ymwneud yn ddigonol â chael mynediad i Gronfeydd Strwythurol?

 

7.1 Tra mai nod WCVA yw cefnogi'r trydydd sector, mae mudiadau o'r sector

     cyhoeddus a'r sector preifat wedi derbyn arian trwy'r Porth Ymgysylltu a phrosiectau

     Marchnad Lafur Drosiannol.  Yn gyfan gwbl, mae 46 o gontractau wedi cael eu dyfarnu

     trwy'r ddau brosiect i fudiadau sector preifat.

 

8.   Yn 2009, cytunodd WEFO ar gynnydd mewn cyfraddau ymyriad rhaglen gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y Rhaglenni Cydgyfeirio ERDF ac ESF.  Yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2010, adroddodd y Pwyllgor Menter a Dysgu fod Asiantaeth Ddatblygu Ranbarthol y De Orllewin wedi trafod cyfraddau ymyriad uwch gyda'r Comisiwn Ewropeaidd.  A yw Cymru yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r cynnydd mewn cyfraddau ymyriad rhaglen?

 

8.1 Dim ond i brosiectau newydd nad oedd hyd yn hyn wedi'u cymeradwyo y cymhwyswyd y cyfraddau ymyriad uwch, ac ni chawsant eu cymhwyso i brosiectau a oedd eisoes wedi cael eu cymeradwyo.  Gellid gwneud defnydd llawer mwy a mwy effeithiol o'r cyfraddau ymyriad uwch trwy alluogi unrhyw brosiect sy'n cael estyniad neu arian ychwanegol, i allu cymhwyso'r cyfraddau ymyriad uwch hyn, waeth beth fyddo'r gyfradd a gymeradwywyd yn wreiddiol ar gyfer y prosiect.

 

8.2 Mae WCVA yn rhagweld y bydd cyfraddau ymyriad uwch yn allweddol i lwyddiant y rhaglenni 2014-2020, mewn amgylchedd lle bydd argaeledd arian cyfatebol gan y sector cyhoeddus, yn ogystal â mudiadau ac ymddiriedolaethau dyfarnu grantiau, yn eithafol o brin.  Mae WCVA yn gofyn i'r Pwyllgor annog WEFO i drafod yn ofalus gyda'r Comisiwn Ewropeaidd i gadarnhau'r cyfraddau ymyriad uchaf posibl ar gyfer y rhaglenni newydd, er mwyn sicrhau nad yw prosiectau gwerth chweil yn cael eu hatal rhag bwrw 'mlaen oherwydd diffyg arian cyfatebol. 

 

9.   Crynodeb o’r argymhellion

 

1)     Mae WCVA yn credu bod gormod o bwyslais ar hyn o bryd ar fonitro gwariant prosiectau ac yn argymell y dylid rhoi mwy o sylw ym mhrosiectau'r dyfodol i ganlyniadau ac effeithiau prosiectau, er mwyn asesu a yw'r ymyriadau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Cymru.

 

2)     Ar gyfer unrhyw raglenni Cronfeydd Strwythurol yn y dyfodol yng Nghymru, mae WCVA yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod WEFO yn darparu arweiniad amserol a llawer cliriach ar y mathau o brosiectau a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer ariannu a sut bydd cydweithio rhwng noddwyr yn cael ei hwyluso.

 

3)     Mae WCVA yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog adrannau Llywodraeth Cymru i gyflwyno prosiectau strategol yn gynnar yn y rhaglenni yn y dyfodol, er mwyn galluogi rhanddeiliaid allanol i gynllunio eu hymyriadau yng ngoleuni’r prosiectau hynny a sicrhau bod y rhaglenni yn cael y cychwyn gorau posibl.

 

4)     Mae WCVA yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn i WEFO gynnal adolygiad brys o brosiectau a gyllidir drwy raglenni 2007-13, i ganfod prosiectau a modelau cyflwyno y gellid eu haddasu i helpu i ddarparu rhai o'r blaenoriaethau ar gyfer rhaglenni i'r dyfodol.  Dylid gwneud hyn ar sail meini prawf blaenoriaethu tryloyw y dylid eu cymhwyso i bob prosiect sydd wedi gwneud cais ffurfiol am estyniad.

 

5)     Argymhellir gwella statws cydweithrediad trawswladol drwy greu un ai  Flaenoriaethau ERDF ac ESF penodol ar gyfer cydweithrediad trawswladol neu, fel arall, llinyn o fewn pob Blaenoriaeth Rhaglen.

 

6)     Mae'r prosiectau hyn wedi bod yn ddrud i'w sefydlu ac felly, er mwyn sicrhau gwerth am arian yn y tymor hwy, mae'n hanfodol i brosiectau sy'n cyflawni eu meini prawf perfformiad unigol, bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnal y modelau darparu hynny ar gyfer y cyfnod rhaglennu yn y dyfodol.

 

7)     Argymhellir ar gyfer y rownd nesaf o raglenni fod y Rhaglenni Gweithredol yn nodi'r prif brosiectau y mae pob Adran o Lywodraeth Cymru am eu datblygu, gydag ymrwymiadau i arian cyfatebol ymlaen llaw, gan ei gwneud hi'n glir y bydd/na fydd cyfleoedd i randdeiliaid allanol dendro am y darparu.

 

8)     Er bod gwaith da wedi'i wneud gan dîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso WEFO o ran darparu deunyddiau cyfeirio a chyngor defnyddiol i noddwyr prosiect er mwyn datblygu systemau monitro effeithiol a phrosesau gwerthuso, erys yr angen am ddatblygiadau i ddangos yn effeithiol beth yw effaith llawn yr arian yng Nghymru.  Er enghraifft, byddai cyflwyno bâs data cyfranogwyr, wedi'i reoli'n ganolog gan WEFO, yn helpu lleihau cyfrif dwbl.

 

9)     Er mwyn hyrwyddo ac annog cynaliadwyedd ariannol o ddifrif, gofynnir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i sgopio cyfleoedd i wella hyblygrwydd o ran rheolau cyllido'r UE er mwyn ysgogi, yn hytrach na rhwystro, modelau ariannol cynaliadwy megis cyllid o fenthyciadau a chymynroddion.

 

10) Mae WCVA yn gofyn i 'r Pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru'n sicrhau nid yn unig fynediad i offerynnau ariannol ond hefyd bod cyfres lawn o gymorth o ran buddsoddi, grantiau, cychwyn, busnes a chymorth deallusol ar gael i fudiadau mentrus yn y trydydd sector a mentrau cymdeithasol.

 

11) Gellid gwneud defnydd llawer mwy a mwy effeithiol o'r cyfraddau ymyriad uwch trwy alluogi unrhyw brosiect sy'n cael estyniad neu arian ychwanegol, i allu cymhwyso'r cyfraddau ymyriad uwch hyn, waeth beth fyddo'r gyfradd a gymeradwywyd yn wreiddiol ar gyfer y prosiect.

 

12) Mae WCVA yn gofyn i'r Pwyllgor annog WEFO i drafod yn ofalus gyda'r Comisiwn Ewropeaidd i gadarnhau'r cyfraddau ymyriad uchaf posibl ar gyfer y rhaglenni newydd, er mwyn sicrhau nad yw prosiectau gwerth chweil yn cael eu hatal rhag bwrw 'mlaen oherwydd diffyg arian cyfatebol. 

 

JS

19/12/2011

Atodiad 1:Tystiolaeth atodol gan Blant y Cymoedd

 

Buddugoliaeth o Broses dros Ymarfer

 

Mae Plant y Cymoedd wedi gweithio yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Cymoedd ers 34 mlynedd. Yn ystod yr amser hynny, rydym wedi bod yn rhan o'r gwaith o drawsnewid cymunedau o ardaloedd o anobaith i fod yn gymunedau bywiog lle mae pobl yn dymuno byw.  Rhoddodd arian Ewropeaidd gynhwysyn allweddol ar gyfer y trosglwyddo rhwng 2003 a 2006 ar ffurf Amcan Un. Roedd cael mynediad uniongyrchol i arian Cydgyfeirio yn amhosibl oherwydd proses  anhreiddiadwy sydd ond yn bosibl cael mynediad iddi trwy broses caffael o'r brig i lawr.

 

Amcan Un

O'r gwaelod o fyny yn ymateb i anghenion lleol

 

Arian Cydgyfeirio

Proses o'r brig i lawr yn hyrwyddo blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

 

Proses: Plant y Cymoedd yn gallu gwneud cais yn uniongyrchol i WEFO

Cymerodd y broses ymgeisio rhwng 3 a 6 mis.

Llwyddwyd i gyrraedd y cymunedau oedd â'r angen mwyaf gan roi iddynt lais yn y gwasanaethau

Partneriaethau Lleol yn gweithio

Egwyddor dau draean wedi'i sefydlu ar gyfer partneriaethau lleol

Cynllunio ar y cyd er mwyn ymdrin ag amddifadedd

Canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer pobl a chymunedau dan anfantais

Roedd gan gymunedau lais yn y broses ac yn y prosiectau

Mudiad cymunedol llai yn gallu gwneud cais uniongyrchol am arian

 

 

Proses:  Plant y Cymoedd yn cael eu heithrio o'r broses ymgeisio

Mae prosesau ymgeisio ar gyfer rhai cynigion o’r sector gwirfoddol wedi cymryd 3.5 mlynedd.

Proses ymgynghori am flwyddyn ynghylch trefniadau darparu newydd.

Trefniadau Partneriaeth Lleol gyda sector gwirfoddol wedi dod i ben

'BIG is beautiful' - dim ond cynlluniau mawr iawn sy'n cael eu hariannu

Canolbwyntio ar gaffael yn atal cydweithio a chydgynllunio â'r sector gwirfoddol

O’r brig i lawr

Cymunedau yn cael eu heithrio o'r broses

Mudiadau mawr ac Awdurdodau Lleol yn rheoli.

Defnyddio i ymestyn gwasanaethau statudol cyfredol.

 

Cyfraniad:  Llwyddodd Plant y Cymoedd i gael £3 miliwn o arian Ewropeaidd yn uniongyrchol ac ychwanegu at hynny 3 miliwn o bunnoedd o ffynonellau eraill yn cynnwys ymddiriedolaeth, cwmnïau ac unigolion yn y DU fel amser gwirfoddoli nwyddau'n unig a denu £4miliwn pellach fel buddsoddiad yn y gymuned.

 

Cyfraniad: Tendr ar gyfer contractau dim ond ar gael trwy WCVA a'r Cyngor Celfyddydau. Dim cyfle i dendro ar gyfer rhan fwyaf y contractau.

Contractau wedi eu hennill am £390,000 gan ddenu £190,000 o arian cyfatebol.

 

Allbynnau: Canolbwynt Cymunedol Newydd yn Nhreherbert

Canolbwynt Cymunedol Newydd yn Rhydyfelin

Gwell Canolbwynt Cymunedol ym Mhenygraig

 

Allbynnau:  Dim ond yn gallu cael mynediad i raglenni penodol yn canolbwyntio ar unigolion anodd eu cyrraedd mewn ardaloedd difreintiedig.

 

Effaith: Rhagor na 4,000 o gyfranogwyr actif

Llai o blant yn cael eu cymryd i mewn i ofal.

Buddsoddiad mawr yn y stoc tai.

Gwella sylweddol ar gyfraddau imiwneiddio

Cyfranogaeth actif gan unigolion anodd eu cyrraedd mewn gweithgareddau cymunedol

Cymunedau wedi'u Gweddnewid

Gweddnewid bywydau

 

Effaith: Newidiadau sylweddol i unigolion fu'n rhan o'r prosiect gyda chynnydd mewn hyder a  datblygiad i hyfforddiant pellach neu i waith.

Cynaliadwyedd: Mae pob prosiect a ddatblygwyd ag arian Amcan Un yn parhau.

 

Cynaliadwyedd: Mae'r prosiectau yn annibynnol ac unwaith y bydd yr arian Ewropeaidd yn dod i ben, fe ddaw'r prosiectau i ben.

 

Macintosh HD:Users:richard:Documents:Rich Work 2011:PEN DIS Proj Out Old small.tiff                          Macintosh HD:Users:richard:Documents:Rich Work 2011:PEN DIS Build Front small.jpg

 

Amcan Un Llwyddodd Prosiect Penyrenglyn i weddnewid ardal lled-ddiffaith lle nad oedd unrhyw un yn mynd iddi yn gymuned sydd â rhestr aros am dai ac amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd a phlant. Ni lwyddom i ddatblygu prosiectau o'r fath  yn y Rhaglen Gydgyfeirio.

 

 

 

 

 

WCVA Helpdesk / Lein Gymorth 0800 2888 329 | help@wcva.org.uk | www.wcva.org.uk
facebook.com/walescva | twitter.com/walescva

http://e2ma.net/userdata/1350851/images/templates/ERDFPortRGB.JPG

http://e2ma.net/userdata/1350851/images/templates/ESFPortRGB.JPG